Thursday 16 January 2014

Cymraeg yn y gweithle

Helo pawb a sori bo' fi ddim wedi blogio ers sbel. Fi wedi bod yn gweithio fel newyddiadurwr i'r South Wales Evening Post am wythnos ac heb ysgrifennu dim byd. Dyna fel mae bywyd i gyd o ni sbo - ni gyd yn gweithio'n rhy galed ac anghofio i neud pethau.


Tra bo fi yn yr Evening Post, doedd dim lot o Gymraeg yn y swyddfa. Pan ddaeth galwad i mewn ynglyn â rhywbeth cyfrwng Cymraeg, "Christian speaks Welsh" oedd e.
Anyway, roedd 'na un hen foi yn dysgu o'r enw Nino Williams a tries i helpu fe wrth ddangos y gwefan Golwg360.com iddo fe; mae e nawr yn iwso fe bob dydd i ddwgyd erthyglau i iwso yn yr Evening Post ond dyna un mantais dysgu Cymraeg yndyfe..

Mae'r pwnc 'Cymraeg yn y gweithle' yn dadleuol iawn, nag yw e?

Gallai cofio amser pan o'n i'n gweithio yn Frankie and Bennys a wedodd rheolwr fi doedd dim hawl 'da fi i siarad Cymraeg o flaen staff arall rhag ofn i fi weud pethau cas - nid bod hwnna wedi stopio fi, wrth gwrs.

Yr wythnos hon, cwples i prosiect ar gyfer defnydd o'r Gymraeg yn Llanelli ymhlith oedolion ifanc 18-25 oed. Rwy'n falch i reportio bod bob un ohonyn nhw yn ymwybodol o beth yw'r bathodyn iaith gwaith. 


Sy'n dda ar y cyfan ond es i gam ymhellach gan trial ffeindio mas faint o gweithwyr yn Llanelli sy'n wisgo nhw. 

Yn y Canolfan Byd Gwaith (Job Centre) a swyddfa Cyngor Sir Gâr, roedd staff i'w gweld yn gwisgo'r bathodyn iaith gwaith.

Y Bathodyn Iaith Gwaith

Roedd yn diddorol gweld bod rhai cwmniau yn darparu bathodyn ar eu liwt eu hun. Mae dyfyniad o rhyw lyfr bod 'companies are becoming increasingly sensitive to the desirability of promoting a bilingual image’. Mae'n amlwg yn wir. Mae dweud bod chi'n siarad Cymraeg yn galllu denu fwy o gwsmeriaid fel yn yr achos Jenkins (pobydd De Cymru sy wedi wneud yn dda iawn yn diweddar) a Halifax (banc genedlaethol).

Bathodyn Jenkins

Bathodyn Halifax

Des i dros hwn hefyd yn Costa ond nad oedd James yn gallu siarad Cymraeg.

Bathodyn 'genedligrwydd' Costa

Wedodd e bod e ffaelu siarad Cymraeg ond yn gwisgo'r bathodyn achos taw dyna beth yw ei genedligrwydd e. Dylid nodi hefyd bod e wedi cael lot o bobl yn meddwl bod e'n siarad Cymraeg a bod e wedi cael probemau o'r achos hyn. 


- Ydych chi'n wisgo bathodyn Cymraeg?
- A ddylai pobl gallu wisgo bathodyn Cymreig os nad ydyn nhw'n gallu siarad Cymraeg? 
- A ydych chi'n fwy tebygol o siarad Cymraeg gyda rhywun os ydyn nhw'n gwisgo un? 
- A ddylai bod gorfodaeth ar fusnesau preifat i gael o leiaf un person sy'n siarad Cymraeg?

No comments:

Post a Comment