Create your free online surveys with SurveyMonkey , the world's leading questionnaire tool.
Showing posts with label gweithio. Show all posts
Showing posts with label gweithio. Show all posts
Thursday, 27 March 2014
Arolwg bach ar gyfer defnydd y Gymraeg ymhlith pobl ifanc 18-25 oed
Wnewch pobl ifanc 18-25 oed sy'n siarad Cymraeg llenwi hwn mewn plis!
Labels:
ar-lein,
arbrawf,
blogio,
cymdeithasol,
Cymraeg,
cymuned,
dwyieithrwydd,
facebook,
gweithio,
iaith,
llwyddiant,
pobl ifanc,
rhwydwaith,
swydd,
twitter
Friday, 31 January 2014
Ydy e'n bosib i fyw yn Gymraeg?
Ar ddechrau mis Ionawr, creuais i'r blog hwn a gofyn y cwestiwn "Ydy e'n bosib i fyw yn Gymraeg?". O'n i'n gwybod beth o'n i'n meddwl ond dyna eich ymateb chi:
![]() |
Ymateb dilynwyr 'Chris yn Gymraeg' |
Mae rhan fwyaf ohonoch chi'n meddwl bod e yn bosib i fyw yn Gymraeg sy'n peth da i weld. Mae'n dangos bod pawb sy' wedi gweld y blog hwn dal yn gwneud ymdrech. Gyda sut gymaint o bethau negyddol ynglyn â'r Gymraeg yn y cyfryngau e.e. Y Cyfrifiad 2011, mae 80% ohonoch chi yn amlwg cymryd sylw o'r angen i ddefnyddio'r iaith sut gymaint â phosib. Mae pawb yn dweud 'gwyliwch S4C', 'darllen llyfrau Cymraeg' a 'gwrando ar Radio Cymru' ond nid chi sy'n gorfod cymryd rhan wedyn os e? Dyna beth o'n i eisiau dynnu sylw ato fe; bod e'n haws byw yn Gymraeg pan ydych chi'n gwneud y gweithred.
Felly, beth ydw i wedi cael mas o'r arbrawf hwn?
- wedi creu trafod
- wedi cael sylw gan bobl enwog yn y byd blogio
- wedi cael cynnig i ysgrifennu i gyhoeddiadau Cymraeg
- wedi cael cynnig i ddod yn gyfrannwr am wefannau Cymraeg
- wedi cael fy ychwanegu at wefannau swyddogol
- wedi cael ymateb y Gymry Gymraeg
- wedi cael pobl i wrando
- wedi helpu pobl sy'n meddwl "does dim gyda lot o gyfleoedd yn fy ardal i" (gobeithio!)
- wedi cael dros 500 o bobl i edrych ar y blog
- wedi llwyddo
Beth sy'n digwydd o hyn ymlaen?
- Rwy'n mynd i gwblhau traethawd estynedig ar flogio (diolch i hwn)
- Rwy'n mynd i graddio gyda 2.1 yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe (na beth yw'r plan ta beth)
- Rwy'n mynd i trial ennill lle ar y cwrs newyddiaduraeth darlledu (Prifysgol Caerdydd)
- Rwy'n mynd i hala lot o amser yn gweithio yn Caerdydd (sori, sai'n lico treiglad trwynol)
- Rwy'n mynd i weithio i'r Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 (diwedd braf i'r gradd Cymraeg, fi'n credu, ar ôl bedair mlynedd o waith galed!)
- Rwy'n mynd i gadw'r blog hwn.
O hyn ymlaen, bydd 'Chris yn Gymraeg' yn cynnwys cofnodion pwnc Cymraeg fel mae'n nhw'n digwydd yn fy mywyd i. Ddim mor aml ond dal yn dangos fi'n byw yn Gymraeg ac yn fwy personol y tro hyn.
Mae rhaid diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi bod yn dilyn fi dros y mis diwethaf ac i bob un sydd wedi hyrwyddo fy ngwaith i. Rwy'n gobeithio nethoch chi joio a wedi dysgu rhywbeth! Mae wedi bod yn sbort ond mae llwyth o bethau i ddod, peidiwch chi fecso...
Hwyl am y tro,
Christian
Subscribe to:
Posts (Atom)