Gwisgo bathodyn Cymraeg i'r BBC |
Ta beth, mae'n cofnod newydd felly mae'n pwnc newydd. Cario mlan gyda'r pwnc hwn o fyw yn Gymraeg, ni gyd yn byw ar-lein i ryw raddau y dyddiau 'ma nag ydym? Ac fel popeth arall sy'n cael ei wneud yn y Gymraeg, mae eich dewis chi yw'r rheswm tu ôl i hynny.
Blogiodd Carl Morris am drydar yn ddwyieithog sbel yn ôl ac ar fy ffrwd Twitter, dwi'n gweld y Gymraeg a'r Saesneg yn cyd fyw, gan taw fi sy'n dewis pwy fi'n dilyn. Mae Twitter yn llawn cwmniau gwahanol ac yn fwy fel lle hysbysebu na Facebook. Dyma rhai ohonynt;
Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn uniaith Gymraeg: @Golwg360, @BBCCymru, @Prif_Abertawe, @ColegCymraeg, @Cymdeithas, @Dyfodol_Iaith, @YLleArall, @LlywodraethCym
Cyfrif Twitter BBC Cymru |
Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn ddwyieithog Cymraeg a Saesneg: @S4C, @CarmsCouncil, @DyfedPowys, @CarmsLibraries
Cyfrif Twitter Cyngor Sir Gâr |
Yn ôl ffrwd Twitter i, mae'n debyg bod rhai cwmniau yn ffeindio fe'n rwyddach i gael cyfrif Twitter ar wahan ond mae ambell un yn ddwyeithog Gymraeg a Saesneg. I fi, does dim ots os iddyn nhw gan Twitter account 'Cymraeg' penodol neu yn trydar yn ddwyieithog, o leiaf maen nhw'n gwneud ymdrech i apelio at y cymuned Cymraeg.
Ar gyfer trydar fel person unigol, byddwn yn dweud fod mae'n debygol ar y sgwrs/pwnc. Pe bai rhywun yn trydar fi yn Gymraeg, byddai wastod yn ateb yn Gymraeg. Os dwi am greu trydar newydd fy hun, byddai tueddi i wneud e'n ddwyieithog os yw e'n rhywbeth cyffredinol i bawb. Os nag yw e, wedyn byddai'n trydar yn uniaith Gymraeg.
2) Facebook
Fel wedais, mae Facebook llawer mwy personol na Twitter; mae'n lle i fynegi teimladau/bragio/lanlwytho lluniau o'r noson gynt..... mae'r rhestr yn mynd ymlaen. O'n i'n siarad gyda rhywun o Brifysgol Abertawe pwy diwrnod a wedon nhw "Mae Facebook mor useful ond mae hefyd mor unprofessional".
Ar gyfer defnydd o'r Gymraeg arno fe, dyma rhai statws fi 'di gweld yn ddiweddar;
Statws dwyieithog Elidir ar Facebook |
Statws uniaith Cymraeg Heledd ar Facebook |
Statws tairieithog fi ar Facebook |
Nid bo fi'n roi statws tairieithog/dwyieithog lan bob amser.... mae'n dibynnu ar pa cynulleidfa chi'n targedu neu pwy chi eisiau gweld beth sy 'da chi i weud. Mae dyfyniad i'w gael gan Jill Walker Rettberg yn ei llyfr, Blogging, sy'n dweud bod ni'n trial siarad â gormod o bobl ar yr un pryd ar safleoedd cymdeithasol fel Facebook. Mae'n wir. A gan fod yr iaith Gymraeg yn iaith lleiafrifol bellach, mae'n amlwg does dim digon o hyder gan rhai bobl i ddefnyddio Cymraeg o gwbl ar Facebook, falle achos does dim lot o siaradwyr Cymraeg yn eu cylch nhw? (dyna fel mae Twitter yn wahanol ac yn agor i'r byd go iawn). Ta beth, mae fy Facebook i'n llawn Cymraeg a Saesneg a byddai'n parhau i ddefnyddio'r ddwy iaith arno.
Ar Facebook, rwy'n credu, mae lle i'r ddwy iaith ac mae dal yn synnu fi, os dwi'n rhoi statws uniaith Saesneg lan, byddai'n cael atebion Cymraeg. Mae fel rhyw fath o gynnal iaith yn mynd ymlaen ac rwyf yn ei dderbyn. I rhai bobl, Cymraeg fi wastod wedi siarad gyda nhw felly pam stopio nawr?
- Beth yw eich prif iaith chi wrth ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol fel Twitter a Facebook?
- Ydy e'n wneud gwahaniaeth os ydyn ni'n cyfathrebu yn ddwyieithog?
- Ydy'r byd ar-lein y ffordd ymlaen o gynnal iaith?
Mae'n dda iawn gen i glywed dy fod yn gwisgo bathodyn Cymraeg, ac mae'n gweithio! Roedd gen i fathodyn ond fe'i collais. Oes gennyt ti un sbâr, Chris?
ReplyDeleteO ran iaith ar-lein, fel yr wyt ti'n gwybod, rwyf yn ceisio trydar yn ddwyieithog, er mwyn imi ddefnyddio'r Gymraeg mor aml â phosibl, ond yn wir, mater o gynulleidfa a phwy ydych chi'n eu targedu yw e. Efallai 'yn ni'n ceisio'n ormod i apelio at bawb, ac efallai fe ddylen ni ddefnyddio un iaith i bopeth. Ond fe gredaf nad hon yw'r ateb gorau. Yn lle, dylen ni ddefnyddio unrhyw ieithoedd ein bod yn dymuno, a dylai pobl sydd ddim yn gallu deall yr iaith honno beidio â darllen rhan hon o'r statws/trydar! Nid eich bai yw e os nad ydynt yn gallu ei siarad/darllen hi!
O ran cynnal Cymrag ar y we, oes, mae yna le iddi ddatblygu, ond bydd rhaid inni i gyd ei defnyddio mor aml â phosibl. Sut ydyn ni'n gwneud hynny? Trwy drydar, trwy lunio statws Facebook etc. yn ddwyieithog. Efallai fe allai'r Bwrdd Addysg annog plant Cymraeg i lunio testunau mewn ffyrdd electronig newydd fel blogio, fel creu gwefannau etc. er mwyn gwrthdroi'r shifft i'r Saesneg ynghylch y we.
Oes mae llawer gyda fi paid becso! Ac os oes unrhuywun eisiau ordro nhw, maen nhw ar gael ar wefan y comisiynydd sef: http://www.comisiynyddygymraeg.org/Cymraeg/Cymorth/Pages/ArchebuNwyddauCymraeg.aspx
ReplyDeleteDylen ni defnyddio unrhyw iaith y ni moyn ond fel wedest ti, dyw hynny ddim yn meddwl bydd pawb yn gallu deall ond dewis ni yw e i beidio â chydymffurfio sbo.
Mae tabledi (nid paracetamol fel fy mamgu yn meddwl) fel iPads a Samsung Galaxy Tabs yn dod yn fwy poblogaidd ac es i i rhyw training scheme wythnos diwethaf ar apiau a ddwedodd taw 2014 fydd y flwyddyn o geisio apelio at y byd addysg gyda'r technoleg yma. Felly, pe bai iPads gyda aps Cymraeg ar gael yn ysgolion, falle bydden nhw'n magu diddordeb yn y plant, fel ti'n gweud.
Paid â becso, mae gen i ddau nawr, fe wnes eu harchebu o'r Comisiynydd - y diwrnod nesaf fe ges i'r bathodyn! Gwasanaeth cyflym iawn.
ReplyDeleteRwyf yn meddwl am sgwrsio gyda fy arweinydd yn y gweithle am efallai ateb y ffon yn ddwyieithog, a hefyd am ddweud pethau fel 'bore 'da, 'nawn da', 'chi'n groeso' a 'hwyl' wrth siarad â chwsmeriaid yn y gweithle - Gan fod y siop yn defnyddio arwyddion Cymraeg, a ydy'n amhosibl defnyddio Cymraeg ar lafar hefyd? Er bod 'na ddim llawer o siaradwyr Cymraeg yng Nghas-gwent, fe gredaf fod yn bwysig hwyluso'r iaith beth bynnag am dri rheswm sef 1) i ddangos agwedd bositif at y Gymraeg o safbwynt y cwmni ei hun, 2) i ddangos ymdrech wir i drin y Gymraeg yn gyfartal a'r Saesneg 3) er mwyn arddangos ein hiaith i'r cwsmeriaid uniaith Saesneg!
Mae tabledi electronig/ apiau yn syniadau gwych, ond bydd rhaid i'r Llywodraeth /Bwrdd Addysg ariannu ar gyfer hyn fel y dywedaist. Credaf hefyd fod angen canolbwyntio ar sut y bydd cyrsiau Gwybodaeth Technoleg etc. yn cael eu haddysgu yn y dyfodol hefyd - rhaid canolbwyntio ar greu gwefannau, blogiau, apiau a sut i ddefnyddio adnoddau electronig newydd fel tabledi electronig, yn hytrach na chanolbwyntio ar sut i ddefnyddio blydi data-basau, taenlenni etc! Bydd yn well gadael y stwff yna i gyrsiau fel busnes rwy'n credu.
Oes unrhywun arall yn eich gweithle yn siarad Cymraeg o gwbl? Byddai'n dda i chi ateb y ffon yn dwyieithog, rwy'n cytuno. Byddwn i ond ond nid fi sy'n ateb y ffon yn TGI Fridays. Ond fel rhywun sy'n gweithio yn Abertawe, fy hun, lle ddim lot o Gymraeg. Ond fi'n lwcus bod da fi 2 person arall sy'n gweithio 'da fi sy'n siarad Cymraeg (un o Gas-newydd ac un o Gaerfyrddin) felly mae fel equal representation o De Cymru!
ReplyDeleteAc mae cynnwys cyrsiau TG yn ysgolion yn bwnc hollol wahanol ond fel ti'n dweud, mae fwy i gyfrifiaduron na jest Microsoft Word ac yn y blaen, wir. Fi'n credu byddai cyrsiau dysgu Cymraeg ac ennill fwy o gyflog yn incentive dda i bobl sy ddim wedi meddwl o ddysgu fe o blaen.