Showing posts with label Cymraeg. Show all posts
Showing posts with label Cymraeg. Show all posts

Thursday, 27 March 2014

Arolwg bach ar gyfer defnydd y Gymraeg ymhlith pobl ifanc 18-25 oed

Wnewch pobl ifanc 18-25 oed sy'n siarad Cymraeg llenwi hwn mewn plis!
Create your free online surveys with SurveyMonkey , the world's leading questionnaire tool.

Saturday, 4 January 2014

Gweithio mas os ydy rhywun yn gallu siarad Cymraeg neu peidio

Mae rhaid cyfaddef taw dim ond ddoe digwyddodd hwn i fi a teimlas eithaf dwp mewn gwirionedd.

Fel rhai o chi'n gwybod, dwi am symud i Gaerdydd eleni i wneud cwrs newyddiaduraeth ac wrth chwilio ar flog Lowri Haf Cooke, des i dros llyfr o'r enw Canllaw Bach Caerdydd (llyfr defnyddiol dros ben i unrhywyn sydd eisiau darganfod mwy am y prif-ddinas).


Anyway, es i mewn i'r siop lleol Caerdydd, Siop Prifysgol Cymru, gan fod dyna lle oeddwn i ar y pryd. O'n i moyn cefnogi siop lleol (dim rili lleol i fi, ond lleol i Gaerdydd) yn lle na twlu bob ceiniog o fy arian at Amazon fel fel arfer. Gofynnais i'r dyn tu ôl y cownter a dyna beth oedd y sgwrs;

Fi: "Have you got this Welsh book... something Caerdydd?" 
Fe: "Oh..um.. Canllaw Bach: Caerdydd you mean?
Fi: "Yeah thats the one"
Fe: "I've read that it's good mind, loads of useful information"

Nid i fod yn gas i'r boi 'ma ond doedd e ddim yn disgwyl fel rhywun a oedd yn gallu siarad Cymraeg. Edrychodd fel bod e'n dod o dramor ac doedd dim acen amlwg Cymraeg gyda fe o gwbl ond wrth edrych nôl, acen Caerdydd odd e siwr o fod (i bobl Llanelli, unrhywun o Gaerdydd neu Casnewydd yn swnio tamed bach yn Saes, Alex ti'n gwybod beth fi'n meddwl fan hyn). Ond fel dywedodd un o fy darlithwyr am Mhrifysgol Abertawe, Steve Morris, "ti byth yn gwybod os mae rhywun yn siarad Cymraeg wrth beirniadu eu hacennau nhw".

Felly gofynnais i, mewn sioc, "Beth.. ti'n siarad Cymraeg?" ac atebodd e "Ydw". Dylen i wedi nodi hefyd taw dyna'r pwynt nad oedd fy nhad ddim syniad beth oedd y dau o ni'n gweud gan fod e'n dod o Loegr yn wreiddiol.


Wedyn es i i gael bwyd yn TGI Fridays, Caerdydd gan bo fi'n cael bwyd hanner pris wrth gweithio 'na (job gorau erioed) ac wrth gweld taw enw y boi a oedd yn syrfo fi oedd Dafydd ar y bil, wedes i "Diolch" yn Gymraeg iddo fe, dim ond i gael yr ymateb "You're welcome have a nice day" nôl. 

Dyma llun o fi gyda actor enwog o Bort Talbot, Michael Sheen, wythnos diwethaf sy'n byw yn Hollywood nawr. Sy' ddim yn perthnasol iawn i'r blog ond gan bo fi'n sôn am TGI Fridays...


Felly, mae beirniadu pobl yn ôl eu nodweddion yn gallu bod yn danjerys weithiau, fel i chi wedi gweld yn y dau achosion hyn. Nad ydyn ni'n iawn bob amser. Beth yw eich ymateb chi ar gyfer hon?

Hwyl am y tro

Chris

Tuesday, 31 December 2013

Cyflwyniad i'r blog yma

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

Gan fod hwnna mas o'r ffordd, sdim eisiau i fi hala cardiau i neb nawr. Grêt. Rheswm arall dros blogio. 

Os nag ych chi'n siwr beth ma'r blog hwn amdano, well i chi edrych ar y tudalen 'PWRPAS' i gael eglurhad. 

Sain ysgrifennu blogs yn aml. Probably achos bod well da fi siarad trwy'r amser yn lle ysgrifennu pethau. Mae amser yn prin i bawb y dyddiau ma hefyd, nag yw e; mae pawb â coleg, gwaith, bywyd cymdeithasol.... mae llwyth o bethau arno. Ond yn ystod mis Ionawr, mae pethau'n mynd i newid.

Ar ôl gofyn i lawer o fy ffrindiau (18-25 oed ish) pam nad ydyn nhw'n defnyddio lot o Gymraeg rhagor, y rheswm mwya gyffredin yw diffyg cyfleoedd. Felly, fi'n mynd i gofnodi bethau sy'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy mywyd fel mae'n nhw'n digwydd a gweld os ydyn nhw'n perthnasol i bawb. A gweld ymateb pawb i'r hyn sy'n cael ei wneud.

Ydy hwnna'n swnio'n ddiddorol? Os ydych chi am ddilyn yr experiment yma;

Ar top y tudalen ar yr ochr dde, mae'n dweud 'Dilyn Chris yn Gymraeg'. Os gallwch roi eich e-bost mewn a cliciwch 'Submit', byddwch yn dod yn dilynwr y blog 'Chris yn Gymraeg' a derbyn e-bost pan mae post newydd yn cael ei gyhoeddi.

Dyna fe i gyd am nawr. Tan y tro nesa, hwyl fawr a joio'r dathliadau heno!