Showing posts with label rhwydwaith. Show all posts
Showing posts with label rhwydwaith. Show all posts

Thursday, 27 March 2014

Arolwg bach ar gyfer defnydd y Gymraeg ymhlith pobl ifanc 18-25 oed

Wnewch pobl ifanc 18-25 oed sy'n siarad Cymraeg llenwi hwn mewn plis!
Create your free online surveys with SurveyMonkey , the world's leading questionnaire tool.

Friday, 31 January 2014

Ydy e'n bosib i fyw yn Gymraeg?

Ar ddechrau mis Ionawr, creuais i'r blog hwn a gofyn y cwestiwn "Ydy e'n bosib i fyw yn Gymraeg?". O'n i'n gwybod beth o'n i'n meddwl ond dyna eich ymateb chi:

Ymateb dilynwyr 'Chris yn Gymraeg'
Mae rhan fwyaf ohonoch chi'n meddwl bod e yn bosib i fyw yn Gymraeg sy'n peth da i weld. Mae'n dangos bod pawb sy' wedi gweld y blog hwn dal yn gwneud ymdrech. Gyda sut gymaint o bethau negyddol ynglyn â'r Gymraeg yn y cyfryngau e.e. Y Cyfrifiad 2011, mae 80% ohonoch chi yn amlwg cymryd sylw o'r angen i ddefnyddio'r iaith sut gymaint â phosib. Mae pawb yn dweud 'gwyliwch S4C', 'darllen llyfrau Cymraeg' a 'gwrando ar Radio Cymru' ond nid chi sy'n gorfod cymryd rhan wedyn os e? Dyna beth o'n i eisiau dynnu sylw ato fe; bod e'n haws byw yn Gymraeg pan ydych chi'n gwneud y gweithred.


Felly, beth ydw i wedi cael mas o'r arbrawf hwn?
- wedi creu trafod 
- wedi cael sylw gan bobl enwog yn y byd blogio
- wedi cael cynnig i ysgrifennu i gyhoeddiadau Cymraeg 
- wedi cael cynnig i ddod yn gyfrannwr am wefannau Cymraeg 
- wedi cael fy ychwanegu at wefannau swyddogol
- wedi cael ymateb y Gymry Gymraeg
wedi cael pobl i wrando
- wedi helpu pobl sy'n meddwl "does dim gyda lot o gyfleoedd yn fy ardal i" (gobeithio!)
- wedi cael dros 500 o bobl i edrych ar y blog
- wedi llwyddo


Beth sy'n digwydd o hyn ymlaen?
- Rwy'n mynd i gwblhau traethawd estynedig ar flogio (diolch i hwn)
- Rwy'n mynd i graddio gyda 2.1 yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe (na beth yw'r plan ta beth)
- Rwy'n mynd i trial ennill lle ar y cwrs newyddiaduraeth darlledu (Prifysgol Caerdydd)
- Rwy'n mynd i hala lot o amser yn gweithio yn Caerdydd (sori, sai'n lico treiglad trwynol) 
- Rwy'n mynd i weithio i'r Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 (diwedd braf i'r gradd Cymraeg, fi'n credu, ar ôl bedair mlynedd o waith galed!)
- Rwy'n mynd i gadw'r blog hwn. 

O hyn ymlaen, bydd 'Chris yn Gymraeg' yn cynnwys cofnodion pwnc Cymraeg fel mae'n nhw'n digwydd yn fy mywyd i. Ddim mor aml ond dal yn dangos fi'n byw yn Gymraeg ac yn fwy personol y tro hyn. 

Mae rhaid diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi bod yn dilyn fi dros y mis diwethaf ac i bob un sydd wedi hyrwyddo fy ngwaith i. Rwy'n gobeithio nethoch chi joio a wedi dysgu rhywbeth! Mae wedi bod yn sbort ond mae llwyth o bethau i ddod, peidiwch chi fecso...


Hwyl am y tro,

Christian


Friday, 24 January 2014

Byw yn Gymraeg ar-lein

DIWEDDARIAD!
Gwisgo bathodyn Cymraeg i'r BBC
Gwisgais y bathodyn Cymraeg i gynhadledd y BBC ddoe (uniaith Saesneg) a fel dywedais yn y cofnod diwethaf, mae yn gweithio. O'n i wedi llwyddo i gael sgwrs Cymraeg yn lle, lle oedd lot o bobl wedi dod o Loegr.  Dyma llun o fi'n gwisgo fe (wedi blino iawn yn y bore, mae rhaid cyfadde) - beth am i chi dechrau gwneud yr un peth?

Ta beth, mae'n cofnod newydd felly mae'n pwnc newydd. Cario mlan gyda'r pwnc hwn o fyw yn Gymraeg, ni gyd yn byw ar-lein i ryw raddau y dyddiau 'ma nag ydym? Ac fel popeth arall sy'n cael ei wneud yn y Gymraeg, mae eich dewis chi yw'r rheswm tu ôl i hynny.


1) Twitter 

Blogiodd Carl Morris am drydar yn ddwyieithog sbel yn ôl ac ar fy ffrwd Twitter, dwi'n gweld y Gymraeg a'r Saesneg yn cyd fyw, gan taw fi sy'n dewis pwy fi'n dilyn. Mae Twitter yn llawn cwmniau gwahanol ac yn fwy fel lle hysbysebu na Facebook. Dyma rhai ohonynt;

Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn uniaith Gymraeg@Golwg360, @BBCCymru, @Prif_Abertawe, @ColegCymraeg, @Cymdeithas, @Dyfodol_Iaith, @YLleArall, @LlywodraethCym


Cyfrif Twitter BBC Cymru


Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn ddwyieithog Cymraeg a Saesneg@S4C, @CarmsCouncil, @DyfedPowys, @CarmsLibraries


Cyfrif Twitter Cyngor Sir Gâr

Yn ôl ffrwd Twitter i, mae'n debyg bod rhai cwmniau yn ffeindio fe'n rwyddach i gael cyfrif Twitter ar wahan ond mae ambell un yn ddwyeithog Gymraeg a Saesneg. I fi, does dim ots os iddyn nhw gan Twitter account 'Cymraeg' penodol neu yn trydar yn ddwyieithog, o leiaf maen nhw'n gwneud ymdrech i apelio at y cymuned Cymraeg. 

Ar gyfer trydar fel person unigol, byddwn yn dweud fod mae'n debygol ar y sgwrs/pwnc. Pe bai rhywun yn trydar fi yn Gymraeg, byddai wastod yn ateb yn Gymraeg. Os dwi am greu trydar newydd fy hun, byddai tueddi i wneud e'n ddwyieithog os yw e'n rhywbeth cyffredinol i bawb. Os nag yw e, wedyn byddai'n trydar yn uniaith Gymraeg.


2) Facebook

Fel wedais, mae Facebook llawer mwy personol na Twitter; mae'n lle i fynegi teimladau/bragio/lanlwytho lluniau o'r noson gynt..... mae'r rhestr yn mynd ymlaen. O'n i'n siarad gyda rhywun o Brifysgol Abertawe pwy diwrnod a wedon nhw "Mae Facebook mor useful ond mae hefyd mor unprofessional". 

Ar gyfer defnydd o'r Gymraeg arno fe, dyma rhai statws fi 'di gweld yn ddiweddar;


Statws dwyieithog Elidir ar Facebook

Statws uniaith Cymraeg Heledd ar Facebook
Statws tairieithog fi ar Facebook

Nid bo fi'n roi statws tairieithog/dwyieithog lan bob amser.... mae'n dibynnu ar pa cynulleidfa chi'n targedu neu pwy chi eisiau gweld beth sy 'da chi i weud. Mae dyfyniad i'w gael gan Jill Walker Rettberg yn ei llyfr, Blogging, sy'n dweud bod ni'n trial siarad â gormod o bobl ar yr un pryd ar safleoedd cymdeithasol fel Facebook. Mae'n wir. A gan fod yr iaith Gymraeg yn iaith lleiafrifol bellach, mae'n amlwg does dim digon o hyder gan rhai bobl i ddefnyddio Cymraeg o gwbl ar Facebook, falle achos does dim lot o siaradwyr Cymraeg yn eu cylch nhw? (dyna fel mae Twitter yn wahanol ac yn agor i'r byd go iawn). Ta beth, mae fy Facebook i'n llawn Cymraeg a Saesneg a byddai'n parhau i ddefnyddio'r ddwy iaith arno. 

Ar Facebook, rwy'n credu, mae lle i'r ddwy iaith ac mae dal yn synnu fi, os dwi'n rhoi statws uniaith Saesneg lan, byddai'n cael atebion Cymraeg. Mae fel rhyw fath o gynnal iaith yn mynd ymlaen ac rwyf yn ei dderbyn. I rhai bobl, Cymraeg fi wastod wedi siarad gyda nhw felly pam stopio nawr?


Pethau i feddwl amdano:

- Beth yw eich prif iaith chi wrth ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol fel Twitter a Facebook? 
- Ydy e'n wneud gwahaniaeth os ydyn ni'n cyfathrebu yn ddwyieithog?
- Ydy'r byd ar-lein y ffordd ymlaen o gynnal iaith?