Gwisgo bathodyn Cymraeg i'r BBC |
Ta beth, mae'n cofnod newydd felly mae'n pwnc newydd. Cario mlan gyda'r pwnc hwn o fyw yn Gymraeg, ni gyd yn byw ar-lein i ryw raddau y dyddiau 'ma nag ydym? Ac fel popeth arall sy'n cael ei wneud yn y Gymraeg, mae eich dewis chi yw'r rheswm tu ôl i hynny.
Blogiodd Carl Morris am drydar yn ddwyieithog sbel yn ôl ac ar fy ffrwd Twitter, dwi'n gweld y Gymraeg a'r Saesneg yn cyd fyw, gan taw fi sy'n dewis pwy fi'n dilyn. Mae Twitter yn llawn cwmniau gwahanol ac yn fwy fel lle hysbysebu na Facebook. Dyma rhai ohonynt;
Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn uniaith Gymraeg: @Golwg360, @BBCCymru, @Prif_Abertawe, @ColegCymraeg, @Cymdeithas, @Dyfodol_Iaith, @YLleArall, @LlywodraethCym
Cyfrif Twitter BBC Cymru |
Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn ddwyieithog Cymraeg a Saesneg: @S4C, @CarmsCouncil, @DyfedPowys, @CarmsLibraries
Cyfrif Twitter Cyngor Sir Gâr |
Yn ôl ffrwd Twitter i, mae'n debyg bod rhai cwmniau yn ffeindio fe'n rwyddach i gael cyfrif Twitter ar wahan ond mae ambell un yn ddwyeithog Gymraeg a Saesneg. I fi, does dim ots os iddyn nhw gan Twitter account 'Cymraeg' penodol neu yn trydar yn ddwyieithog, o leiaf maen nhw'n gwneud ymdrech i apelio at y cymuned Cymraeg.
Ar gyfer trydar fel person unigol, byddwn yn dweud fod mae'n debygol ar y sgwrs/pwnc. Pe bai rhywun yn trydar fi yn Gymraeg, byddai wastod yn ateb yn Gymraeg. Os dwi am greu trydar newydd fy hun, byddai tueddi i wneud e'n ddwyieithog os yw e'n rhywbeth cyffredinol i bawb. Os nag yw e, wedyn byddai'n trydar yn uniaith Gymraeg.
2) Facebook
Fel wedais, mae Facebook llawer mwy personol na Twitter; mae'n lle i fynegi teimladau/bragio/lanlwytho lluniau o'r noson gynt..... mae'r rhestr yn mynd ymlaen. O'n i'n siarad gyda rhywun o Brifysgol Abertawe pwy diwrnod a wedon nhw "Mae Facebook mor useful ond mae hefyd mor unprofessional".
Ar gyfer defnydd o'r Gymraeg arno fe, dyma rhai statws fi 'di gweld yn ddiweddar;
Statws dwyieithog Elidir ar Facebook |
Statws uniaith Cymraeg Heledd ar Facebook |
Statws tairieithog fi ar Facebook |
Nid bo fi'n roi statws tairieithog/dwyieithog lan bob amser.... mae'n dibynnu ar pa cynulleidfa chi'n targedu neu pwy chi eisiau gweld beth sy 'da chi i weud. Mae dyfyniad i'w gael gan Jill Walker Rettberg yn ei llyfr, Blogging, sy'n dweud bod ni'n trial siarad â gormod o bobl ar yr un pryd ar safleoedd cymdeithasol fel Facebook. Mae'n wir. A gan fod yr iaith Gymraeg yn iaith lleiafrifol bellach, mae'n amlwg does dim digon o hyder gan rhai bobl i ddefnyddio Cymraeg o gwbl ar Facebook, falle achos does dim lot o siaradwyr Cymraeg yn eu cylch nhw? (dyna fel mae Twitter yn wahanol ac yn agor i'r byd go iawn). Ta beth, mae fy Facebook i'n llawn Cymraeg a Saesneg a byddai'n parhau i ddefnyddio'r ddwy iaith arno.
Ar Facebook, rwy'n credu, mae lle i'r ddwy iaith ac mae dal yn synnu fi, os dwi'n rhoi statws uniaith Saesneg lan, byddai'n cael atebion Cymraeg. Mae fel rhyw fath o gynnal iaith yn mynd ymlaen ac rwyf yn ei dderbyn. I rhai bobl, Cymraeg fi wastod wedi siarad gyda nhw felly pam stopio nawr?
- Beth yw eich prif iaith chi wrth ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol fel Twitter a Facebook?
- Ydy e'n wneud gwahaniaeth os ydyn ni'n cyfathrebu yn ddwyieithog?
- Ydy'r byd ar-lein y ffordd ymlaen o gynnal iaith?