Create your free online surveys with SurveyMonkey , the world's leading questionnaire tool.
Showing posts with label cymuned. Show all posts
Showing posts with label cymuned. Show all posts
Thursday, 27 March 2014
Arolwg bach ar gyfer defnydd y Gymraeg ymhlith pobl ifanc 18-25 oed
Wnewch pobl ifanc 18-25 oed sy'n siarad Cymraeg llenwi hwn mewn plis!
Labels:
ar-lein,
arbrawf,
blogio,
cymdeithasol,
Cymraeg,
cymuned,
dwyieithrwydd,
facebook,
gweithio,
iaith,
llwyddiant,
pobl ifanc,
rhwydwaith,
swydd,
twitter
Friday, 31 January 2014
Ydy e'n bosib i fyw yn Gymraeg?
Ar ddechrau mis Ionawr, creuais i'r blog hwn a gofyn y cwestiwn "Ydy e'n bosib i fyw yn Gymraeg?". O'n i'n gwybod beth o'n i'n meddwl ond dyna eich ymateb chi:
![]() |
Ymateb dilynwyr 'Chris yn Gymraeg' |
Mae rhan fwyaf ohonoch chi'n meddwl bod e yn bosib i fyw yn Gymraeg sy'n peth da i weld. Mae'n dangos bod pawb sy' wedi gweld y blog hwn dal yn gwneud ymdrech. Gyda sut gymaint o bethau negyddol ynglyn â'r Gymraeg yn y cyfryngau e.e. Y Cyfrifiad 2011, mae 80% ohonoch chi yn amlwg cymryd sylw o'r angen i ddefnyddio'r iaith sut gymaint â phosib. Mae pawb yn dweud 'gwyliwch S4C', 'darllen llyfrau Cymraeg' a 'gwrando ar Radio Cymru' ond nid chi sy'n gorfod cymryd rhan wedyn os e? Dyna beth o'n i eisiau dynnu sylw ato fe; bod e'n haws byw yn Gymraeg pan ydych chi'n gwneud y gweithred.
Felly, beth ydw i wedi cael mas o'r arbrawf hwn?
- wedi creu trafod
- wedi cael sylw gan bobl enwog yn y byd blogio
- wedi cael cynnig i ysgrifennu i gyhoeddiadau Cymraeg
- wedi cael cynnig i ddod yn gyfrannwr am wefannau Cymraeg
- wedi cael fy ychwanegu at wefannau swyddogol
- wedi cael ymateb y Gymry Gymraeg
- wedi cael pobl i wrando
- wedi helpu pobl sy'n meddwl "does dim gyda lot o gyfleoedd yn fy ardal i" (gobeithio!)
- wedi cael dros 500 o bobl i edrych ar y blog
- wedi llwyddo
Beth sy'n digwydd o hyn ymlaen?
- Rwy'n mynd i gwblhau traethawd estynedig ar flogio (diolch i hwn)
- Rwy'n mynd i graddio gyda 2.1 yn y Gymraeg o Brifysgol Abertawe (na beth yw'r plan ta beth)
- Rwy'n mynd i trial ennill lle ar y cwrs newyddiaduraeth darlledu (Prifysgol Caerdydd)
- Rwy'n mynd i hala lot o amser yn gweithio yn Caerdydd (sori, sai'n lico treiglad trwynol)
- Rwy'n mynd i weithio i'r Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 (diwedd braf i'r gradd Cymraeg, fi'n credu, ar ôl bedair mlynedd o waith galed!)
- Rwy'n mynd i gadw'r blog hwn.
O hyn ymlaen, bydd 'Chris yn Gymraeg' yn cynnwys cofnodion pwnc Cymraeg fel mae'n nhw'n digwydd yn fy mywyd i. Ddim mor aml ond dal yn dangos fi'n byw yn Gymraeg ac yn fwy personol y tro hyn.
Mae rhaid diolch i bob un ohonoch chi sydd wedi bod yn dilyn fi dros y mis diwethaf ac i bob un sydd wedi hyrwyddo fy ngwaith i. Rwy'n gobeithio nethoch chi joio a wedi dysgu rhywbeth! Mae wedi bod yn sbort ond mae llwyth o bethau i ddod, peidiwch chi fecso...
Hwyl am y tro,
Christian
Friday, 24 January 2014
Byw yn Gymraeg ar-lein
DIWEDDARIAD!
Gwisgais y bathodyn Cymraeg i gynhadledd y BBC ddoe (uniaith Saesneg) a fel dywedais yn y cofnod diwethaf, mae yn gweithio. O'n i wedi llwyddo i gael sgwrs Cymraeg yn lle, lle oedd lot o bobl wedi dod o Loegr. Dyma llun o fi'n gwisgo fe (wedi blino iawn yn y bore, mae rhaid cyfadde) - beth am i chi dechrau gwneud yr un peth?
Ta beth, mae'n cofnod newydd felly mae'n pwnc newydd. Cario mlan gyda'r pwnc hwn o fyw yn Gymraeg, ni gyd yn byw ar-lein i ryw raddau y dyddiau 'ma nag ydym? Ac fel popeth arall sy'n cael ei wneud yn y Gymraeg, mae eich dewis chi yw'r rheswm tu ôl i hynny.
1) Twitter
Blogiodd Carl Morris am drydar yn ddwyieithog sbel yn ôl ac ar fy ffrwd Twitter, dwi'n gweld y Gymraeg a'r Saesneg yn cyd fyw, gan taw fi sy'n dewis pwy fi'n dilyn. Mae Twitter yn llawn cwmniau gwahanol ac yn fwy fel lle hysbysebu na Facebook. Dyma rhai ohonynt;
Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn uniaith Gymraeg: @Golwg360, @BBCCymru, @Prif_Abertawe, @ColegCymraeg, @Cymdeithas, @Dyfodol_Iaith, @YLleArall, @LlywodraethCym
Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn ddwyieithog Cymraeg a Saesneg: @S4C, @CarmsCouncil, @DyfedPowys, @CarmsLibraries
Yn ôl ffrwd Twitter i, mae'n debyg bod rhai cwmniau yn ffeindio fe'n rwyddach i gael cyfrif Twitter ar wahan ond mae ambell un yn ddwyeithog Gymraeg a Saesneg. I fi, does dim ots os iddyn nhw gan Twitter account 'Cymraeg' penodol neu yn trydar yn ddwyieithog, o leiaf maen nhw'n gwneud ymdrech i apelio at y cymuned Cymraeg.
Ar gyfer trydar fel person unigol, byddwn yn dweud fod mae'n debygol ar y sgwrs/pwnc. Pe bai rhywun yn trydar fi yn Gymraeg, byddai wastod yn ateb yn Gymraeg. Os dwi am greu trydar newydd fy hun, byddai tueddi i wneud e'n ddwyieithog os yw e'n rhywbeth cyffredinol i bawb. Os nag yw e, wedyn byddai'n trydar yn uniaith Gymraeg.
2) Facebook
Fel wedais, mae Facebook llawer mwy personol na Twitter; mae'n lle i fynegi teimladau/bragio/lanlwytho lluniau o'r noson gynt..... mae'r rhestr yn mynd ymlaen. O'n i'n siarad gyda rhywun o Brifysgol Abertawe pwy diwrnod a wedon nhw "Mae Facebook mor useful ond mae hefyd mor unprofessional".
Ar gyfer defnydd o'r Gymraeg arno fe, dyma rhai statws fi 'di gweld yn ddiweddar;
Nid bo fi'n roi statws tairieithog/dwyieithog lan bob amser.... mae'n dibynnu ar pa cynulleidfa chi'n targedu neu pwy chi eisiau gweld beth sy 'da chi i weud. Mae dyfyniad i'w gael gan Jill Walker Rettberg yn ei llyfr, Blogging, sy'n dweud bod ni'n trial siarad â gormod o bobl ar yr un pryd ar safleoedd cymdeithasol fel Facebook. Mae'n wir. A gan fod yr iaith Gymraeg yn iaith lleiafrifol bellach, mae'n amlwg does dim digon o hyder gan rhai bobl i ddefnyddio Cymraeg o gwbl ar Facebook, falle achos does dim lot o siaradwyr Cymraeg yn eu cylch nhw? (dyna fel mae Twitter yn wahanol ac yn agor i'r byd go iawn). Ta beth, mae fy Facebook i'n llawn Cymraeg a Saesneg a byddai'n parhau i ddefnyddio'r ddwy iaith arno.
Ar Facebook, rwy'n credu, mae lle i'r ddwy iaith ac mae dal yn synnu fi, os dwi'n rhoi statws uniaith Saesneg lan, byddai'n cael atebion Cymraeg. Mae fel rhyw fath o gynnal iaith yn mynd ymlaen ac rwyf yn ei dderbyn. I rhai bobl, Cymraeg fi wastod wedi siarad gyda nhw felly pam stopio nawr?
Pethau i feddwl amdano:
- Beth yw eich prif iaith chi wrth ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol fel Twitter a Facebook?
- Ydy e'n wneud gwahaniaeth os ydyn ni'n cyfathrebu yn ddwyieithog?
- Ydy'r byd ar-lein y ffordd ymlaen o gynnal iaith?
Gwisgo bathodyn Cymraeg i'r BBC |

Cyfrif Twitter BBC Cymru |
Cwmniau ar Twitter sy'n trydar yn ddwyieithog Cymraeg a Saesneg: @S4C, @CarmsCouncil, @DyfedPowys, @CarmsLibraries
Cyfrif Twitter Cyngor Sir Gâr |
Yn ôl ffrwd Twitter i, mae'n debyg bod rhai cwmniau yn ffeindio fe'n rwyddach i gael cyfrif Twitter ar wahan ond mae ambell un yn ddwyeithog Gymraeg a Saesneg. I fi, does dim ots os iddyn nhw gan Twitter account 'Cymraeg' penodol neu yn trydar yn ddwyieithog, o leiaf maen nhw'n gwneud ymdrech i apelio at y cymuned Cymraeg.
Ar gyfer trydar fel person unigol, byddwn yn dweud fod mae'n debygol ar y sgwrs/pwnc. Pe bai rhywun yn trydar fi yn Gymraeg, byddai wastod yn ateb yn Gymraeg. Os dwi am greu trydar newydd fy hun, byddai tueddi i wneud e'n ddwyieithog os yw e'n rhywbeth cyffredinol i bawb. Os nag yw e, wedyn byddai'n trydar yn uniaith Gymraeg.
2) Facebook
Fel wedais, mae Facebook llawer mwy personol na Twitter; mae'n lle i fynegi teimladau/bragio/lanlwytho lluniau o'r noson gynt..... mae'r rhestr yn mynd ymlaen. O'n i'n siarad gyda rhywun o Brifysgol Abertawe pwy diwrnod a wedon nhw "Mae Facebook mor useful ond mae hefyd mor unprofessional".
Ar gyfer defnydd o'r Gymraeg arno fe, dyma rhai statws fi 'di gweld yn ddiweddar;
Statws dwyieithog Elidir ar Facebook |
Statws uniaith Cymraeg Heledd ar Facebook |
Statws tairieithog fi ar Facebook |
Nid bo fi'n roi statws tairieithog/dwyieithog lan bob amser.... mae'n dibynnu ar pa cynulleidfa chi'n targedu neu pwy chi eisiau gweld beth sy 'da chi i weud. Mae dyfyniad i'w gael gan Jill Walker Rettberg yn ei llyfr, Blogging, sy'n dweud bod ni'n trial siarad â gormod o bobl ar yr un pryd ar safleoedd cymdeithasol fel Facebook. Mae'n wir. A gan fod yr iaith Gymraeg yn iaith lleiafrifol bellach, mae'n amlwg does dim digon o hyder gan rhai bobl i ddefnyddio Cymraeg o gwbl ar Facebook, falle achos does dim lot o siaradwyr Cymraeg yn eu cylch nhw? (dyna fel mae Twitter yn wahanol ac yn agor i'r byd go iawn). Ta beth, mae fy Facebook i'n llawn Cymraeg a Saesneg a byddai'n parhau i ddefnyddio'r ddwy iaith arno.
Ar Facebook, rwy'n credu, mae lle i'r ddwy iaith ac mae dal yn synnu fi, os dwi'n rhoi statws uniaith Saesneg lan, byddai'n cael atebion Cymraeg. Mae fel rhyw fath o gynnal iaith yn mynd ymlaen ac rwyf yn ei dderbyn. I rhai bobl, Cymraeg fi wastod wedi siarad gyda nhw felly pam stopio nawr?
- Beth yw eich prif iaith chi wrth ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol fel Twitter a Facebook?
- Ydy e'n wneud gwahaniaeth os ydyn ni'n cyfathrebu yn ddwyieithog?
- Ydy'r byd ar-lein y ffordd ymlaen o gynnal iaith?
Labels:
ar-lein,
blogio,
cwmniau,
cymdeithasol,
cymuned,
cynulleidfa,
defnydd,
dewis,
dwyieithrwydd,
facebook,
ffrindiau,
iaith,
personol,
rhwydwaith,
sgwrs,
statws,
trydar,
twitter,
ymateb,
ymdrech
Saturday, 4 January 2014
Gweithio mas os ydy rhywun yn gallu siarad Cymraeg neu peidio
Mae rhaid cyfaddef taw dim ond ddoe digwyddodd hwn i fi a teimlas eithaf dwp mewn gwirionedd.
Fel rhai o chi'n gwybod, dwi am symud i Gaerdydd eleni i wneud cwrs newyddiaduraeth ac wrth chwilio ar flog Lowri Haf Cooke, des i dros llyfr o'r enw Canllaw Bach Caerdydd (llyfr defnyddiol dros ben i unrhywyn sydd eisiau darganfod mwy am y prif-ddinas).
Anyway, es i mewn i'r siop lleol Caerdydd, Siop Prifysgol Cymru, gan fod dyna lle oeddwn i ar y pryd. O'n i moyn cefnogi siop lleol (dim rili lleol i fi, ond lleol i Gaerdydd) yn lle na twlu bob ceiniog o fy arian at Amazon fel fel arfer. Gofynnais i'r dyn tu ôl y cownter a dyna beth oedd y sgwrs;
Fi: "Have you got this Welsh book... something Caerdydd?"
Fe: "Oh..um.. Canllaw Bach: Caerdydd you mean?"
Fi: "Yeah thats the one"
Fe: "I've read that it's good mind, loads of useful information"
Nid i fod yn gas i'r boi 'ma ond doedd e ddim yn disgwyl fel rhywun a oedd yn gallu siarad Cymraeg. Edrychodd fel bod e'n dod o dramor ac doedd dim acen amlwg Cymraeg gyda fe o gwbl ond wrth edrych nôl, acen Caerdydd odd e siwr o fod (i bobl Llanelli, unrhywun o Gaerdydd neu Casnewydd yn swnio tamed bach yn Saes, Alex ti'n gwybod beth fi'n meddwl fan hyn). Ond fel dywedodd un o fy darlithwyr am Mhrifysgol Abertawe, Steve Morris, "ti byth yn gwybod os mae rhywun yn siarad Cymraeg wrth beirniadu eu hacennau nhw".
Felly gofynnais i, mewn sioc, "Beth.. ti'n siarad Cymraeg?" ac atebodd e "Ydw". Dylen i wedi nodi hefyd taw dyna'r pwynt nad oedd fy nhad ddim syniad beth oedd y dau o ni'n gweud gan fod e'n dod o Loegr yn wreiddiol.
Wedyn es i i gael bwyd yn TGI Fridays, Caerdydd gan bo fi'n cael bwyd hanner pris wrth gweithio 'na (job gorau erioed) ac wrth gweld taw enw y boi a oedd yn syrfo fi oedd Dafydd ar y bil, wedes i "Diolch" yn Gymraeg iddo fe, dim ond i gael yr ymateb "You're welcome have a nice day" nôl.
Dyma llun o fi gyda actor enwog o Bort Talbot, Michael Sheen, wythnos diwethaf sy'n byw yn Hollywood nawr. Sy' ddim yn perthnasol iawn i'r blog ond gan bo fi'n sôn am TGI Fridays...
Felly, mae beirniadu pobl yn ôl eu nodweddion yn gallu bod yn danjerys weithiau, fel i chi wedi gweld yn y dau achosion hyn. Nad ydyn ni'n iawn bob amser. Beth yw eich ymateb chi ar gyfer hon?
Hwyl am y tro
Chris
Tuesday, 31 December 2013
Cyflwyniad i'r blog yma
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Gan fod hwnna mas o'r ffordd, sdim eisiau i fi hala cardiau i neb nawr. Grêt. Rheswm arall dros blogio.
Os nag ych chi'n siwr beth ma'r blog hwn amdano, well i chi edrych ar y tudalen 'PWRPAS' i gael eglurhad.
Sain ysgrifennu blogs yn aml. Probably achos bod well da fi siarad trwy'r amser yn lle ysgrifennu pethau. Mae amser yn prin i bawb y dyddiau ma hefyd, nag yw e; mae pawb â coleg, gwaith, bywyd cymdeithasol.... mae llwyth o bethau arno. Ond yn ystod mis Ionawr, mae pethau'n mynd i newid.
Ar ôl gofyn i lawer o fy ffrindiau (18-25 oed ish) pam nad ydyn nhw'n defnyddio lot o Gymraeg rhagor, y rheswm mwya gyffredin yw diffyg cyfleoedd. Felly, fi'n mynd i gofnodi bethau sy'n digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy mywyd fel mae'n nhw'n digwydd a gweld os ydyn nhw'n perthnasol i bawb. A gweld ymateb pawb i'r hyn sy'n cael ei wneud.
Ydy hwnna'n swnio'n ddiddorol? Os ydych chi am ddilyn yr experiment yma;
Ar top y tudalen ar yr ochr dde, mae'n dweud 'Dilyn Chris yn Gymraeg'. Os gallwch roi eich e-bost mewn a cliciwch 'Submit', byddwch yn dod yn dilynwr y blog 'Chris yn Gymraeg' a derbyn e-bost pan mae post newydd yn cael ei gyhoeddi.
Dyna fe i gyd am nawr. Tan y tro nesa, hwyl fawr a joio'r dathliadau heno!

Subscribe to:
Posts (Atom)